Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
27 Ebrill 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12811
------
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9-10. Ni ofynnwyd cwestiwn 8. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Atebwyd gan y Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Gareth Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am eithrio staff ategol cartrefi gofal o daliadau bonws y gweithwyr cartrefi gofal a'r gweithwyr gofal cartref?
4 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Twristiaeth
Dechreuodd yr eitem am 15.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7990 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.
2. Yn gresynu at effaith ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn tanseilio llawer o fusnesau llety gwyliau.
4. Yn nodi data Cynghrair Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n gallu bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru;
b) cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau;
c) rhoi'r gorau i gynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bodloni'r gofyniad ardrethu annomestig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
34 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID.
2. Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: “Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr”.
3. Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
4. Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny.
5. Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd.
6. Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
7. Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi.
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
6 Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw a thai
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7989 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru yn cynyddu'r risg o ddigartrefedd.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhentu cyfartalog yng Nghymru wedi cynyddu i £726 y mis ym mis Mawrth 2022, i fyny 7.2 y cant o'i gymharu â mis Mawrth 2021
3. Yn nodi, er bod y lwfans tai lleol wedi'i gynllunio i gwmpasu'r 30 y cant isaf o aelwydydd yng Nghymru, mai dim ond 3.8 y cant o aelwydydd sy'n cael eu cwmpasu ganddo mewn gwirionedd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r lwfans tai lleol i sicrhau ei fod yn gweithio i Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru.
A Roadmap to Ending Youth Homelessness in Wales - End Youth Homelessness Cymru (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.00 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
7 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Crynodeb o Bleidleisiau
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.08
NDM7988 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Does unman yn debyg i gartref: tai amlfeddiannaeth ac ymrymuso cymunedol
Daeth y cyfarfod i ben am 17.27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mai 2022